Mae Steff wedi bod yn gweithio ym myd cerddoriaeth nawr ers bron i ddeng mlynedd. Fel perfformiwr a chanwr dechreuodd ei yrfa ond erbyn hyn mae’n cyfansoddi ar gyfer rhaglenu teledu gan fwyaf. Er hyn mae’n dal i berfformio gydag amryw o fandiau yn cynnwys noson 60’au, noson 80’au, band Caryl Parry Jones, band Huw Chiswell, Harmony Central (grwp close harmony). Yn 2001 ymuondd a grwp y Millionaires a fu’n chwarae fel band i Steve Balsamo a gafodd lwyddiant yn y siartiau prydeinig.
Mae wedi bod yn bygwth rhyddhau albym ers blynyddoedd nawr ond wedi bod yn brysur iawn gyda gwaith teledu ac felly heb wneud hynnu eto. Er hyn mae rhai caneuon wedi cael eu recordio ac iw clywed ar :